English | Newid i'r Gymraeg

Canllaw defnyddiwr

Croeso i Ganllaw Defnyddiwr CHAI® LongCovidTracker

Cliciwch ar un o’r cwestiynau isod a chewch eich tywys i ran berthnasol y dudalen. Os ydych chi’n dal i gael problemau gyda defnyddio’r ap, cysylltwch a ni i roi gwybod.

Llywio o amgylch yr ap

Mae CHAI LongCovidTracker yn ap syml, syml iawn, felly dim ond tri prif faes sydd:

    Adrodd Symptomau

    Manylion Personol a Gwybodaeth Atodol

    Rheoli Rhannu Gwybodaeth

Adrodd Symptomau

I gofnodi a graddio difrifoldeb a digwyddiadau eich symptomau tymor hir, cliciwch yr Eicon Cofnodi Symptomau ar dop chwith y dudalen.

Manylion Personol

I gofnodi eich manylion personol a’ch gwybodaeth atodol, cliciwch yr Eicon Manylion Personol ar dop chwith y dudalen

Mae’r wybodaeth atodol yn ddewisol a gofynnir i chi am ganiatâd i gasglu hwn.

Nodyn: Mae angen eich cod post ar gyfer ymarferoldeb allweddol. Lle bo modd, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddarparu gwybodaeth leol iawn i chi.

Rheoli Rhannu Gwybodaeth

Gallwch chi rannu’ch data dienw â’ch tîm, cydweithwyr, ffrindiau neu deulu yn syml ac yn ddiogel.

Gallwch gyrraedd y dudalen hon trwy glicio ar yr Eicon Rhannu Gwybodaeth ar ochr top chwith y dudalen, neu trwy glicio ar y botwm wrth droed y dudalen Cofnodi Symptomau.

I gael mwy o fanylion am sut i rannu’ch data â thrydydd partï , cliciwch yma.

Beth mae’r eiconau ar dop y sgrin yn ei olygu?

Eich manylion personol.
Cliciwch yma i weld eich manylion. Nid yw’r wybodaeth hon byth yn cael ei rhannu ag unrhyw un. Gallwch hefyd ddarparu mwy o wybodaeth amdanoch chi’ch hun yma i helpu ymchwilwyr a darparwyr iechyd lleol.

 Adrodd Symptomau
I gofnodi a monitro’ch symptomau. Cliciwch yma i ddychwelyd i gofnodi symptomau.

Manylion eich cyfrif
Cliciwch yma i newid eich cyfrinair.

Allgofnodi
Bydd clicio ar yr eicon hwn yn eich allgofnodi o CHAI ac yn eich dychwelyd i’r sgrin fewngofnodi.

Gweld fy ystadegau a cheisiadau blaenorol

Mae’r holl gofnodion blaenorol a gyflwynwyd ar y Traciwr Symptom yn cael eu storio yn CHAI LongCovidTracker.

I weld rhain cliciwch ar ddolen Hanes ar dop tudalen adrodd symptomau. Gallwch ddewis dangos graffiau i weld ceisiadau blaenorol.

Sut mae newid fy nghyfrinair?

Pan fyddwch wedi mewngofnodi i CHAI, i newid eich cyfrinair cliciwch ar yr Eicon Clo yng nghornel dde uchaf unrhyw dudalen.

Bydd hyn yn mynd â chi i’r dudalen Newid Cyfrinair lle gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau a ddarperir.

Rhannu’ch data gyda meddyg neu drydydd parti arall

Rhannwch eich data yn syml ac yn ddiogel â’ch meddyg teulu, y Tîm Adferiad, ffrindiau neu deulu.

Rydych chi’n cyrraedd y dudalen hon trwy glicio ar yr Eicon Rheoli Rhannu Gwybodaeth ar dop y sgrin neu’r botwm “Rheoli Opsiynau Rhannu” wrth droed y dudalen Cofnodi Symptomau.